Mae Style-id yn cynnig y profiadau canlynol i ddynion, menywod a phobl ifanc yn eu harddegau, oll wedi eu teilwra yn bersonol ac yn unigryw i ddiwallu eich anghenion.
Darganfod Lliw
Mae hwn yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer style-id ac yn gyfle i ddarganfod eich palet lliw personol mewn profiad gweledol 2.5 awr o hyd. Byddwn yn penderfynu pa liwiau sy’n gwerthfawrogi ac yn adlewyrchu eich wyneb, gan sicrhau ei fod yn ymddangos ar ei orau. Gall gwisgo’r lliwiau cywir guddio namau ar y croen a helpu i bwysleisio eich harddwch naturiol. Byddwch yn gadael y sesiwn gyda’ch cerdyn lliw personol eich hun.
2.5 awr £99
Darganfod Lliw a Steil
Yn y sesiwn hanner diwrnod hon, byddwn yn nodi pa ddillad a thoriadau sy’n dangos siâp eich corff orau, ac yn darganfod eich palet lliw unigryw. Gwisgo’r lliwiau cywir yw’r cam cyntaf i ddeall rhan hollbwysig o’ch hunaniaeth steil. Byddwch yn gadael y sesiwn gyda’ch cerdyn lliw a ffolder steilio personol.
Profiad Hanner Diwrnod £160
Darganfod Lliw a Steil - Ailwampio Wardrob
A oes angen ad-drefnu eich cwpwrdd dillad chi? Gan ddefnyddio eich gwybodaeth newydd sbon am liwiau a steil, byddwn yn asesu ac yn clirio dillad sy’n amlwg yn anaddas cyn llunio rhestr siopa ar gyfer cwpwrdd dillad capsiwl newydd. Byddaf yn eich cynghori ar y camau i’w cymryd i gynnal a datblygu cwpwrdd dillad llwyddiannus.
Profiad Undydd £320
Darganfod Lliw a Steil - Ailwampio Wardrob Cryno - Siopa Personol
Bore o ddarganfod lliw a steil ac ychydig oriau yn asesu eich cwpwrdd dillad. Wedi cwblhau’r rhestr siopa, byddwn yn mynd ar daith siopa gryno 2 awr o hyd, neu daith siopa hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan. Mae’r cwbl yn dibynnu ar gynnwys y rhestr!
Diwrnod a Hanner £450
Dau diwrnod £600
Profiad Llawn
Dyma brofiad gorau oll style-id. Gwasanaeth cyfan mewn ychydig ddiwrnodau’n olynol neu wedi ei ddarparu dros bythefnos, yn dibynnu ar eich anghenion/amserlen. Bydd hyn yn cynnwys Darganfod Lliw, Darganfod Steil, Ailwampio Wardrob hanner diwrnod, siopa am ddiwrnod llawn, steilio ar ôl siopa, llyfr steil personol a sesiwn ffotograffau weddnewidiol.
Pris ar Gais
Os gwelwch yn dda nodi y bydd costau teithio a dynnir at deithiau y tu hwnt i 10 milltir o fy nghartref.