Mae Eleanor Gardner, sefydlydd Style-id, yn arbenigwr steil profiadol a llwyddiannus. Fe sefydlodd y busnes fel llwyfan i ledaenu ei gwybodaeth am steil a ffasiwn, ac i roi llais i bwysigrwydd creu hunaniaeth steil gynaliadwy.
Wedi graddio yng Ngholeg Ffasiwn Llundain, mae gan Eleanor gefndir cyfoethog ac amrywiol yn y sectorau ffasiwn, ffilm, teledu a gwirfoddol.
Mae Eleanor wedi bod yn gysylltiedig â chynllunwyr a brandiau byd enwog yn cynnwys Justin Oh, Loewe, Garrard, Louis Vuitton, Medici, Danielle Scutt, Louise Golding a Jonathan Saunders.
Mae Eleanor hefyd wedi cynhyrchu sioeau ffasiwn ar gyfer Wythnos Ffasiwn Llundain, wedi cynllunio a chyfrannu at gyhoeddiadau ffasiwn, wedi trefnu digwyddiadau ac arwerthiannau llwyddiannus ar gyfer elusennau ac mae hefyd wedi trefnu ymweliad Brenhinol â Chymru.
Mae Eleanor wedi gweithio ar gynyrchiadau steil bywyd, plant a drama ar gyfer S4C a SKY 1, ac mae'n gyfrannwr cyson ar ffasiwn ar BBC Radio Cymru / Wales.
Mae profiadau amrywiol Eleanor yn adlewyrchu cariad mawr at fywyd. Mae ganddi angerdd gydol oes am ddillad, tecstilau ac yn fwy pwysig, pobl. Mae ganddi allu naturiol i ymwneud ag unigolion a nodi eu potensial steil mewnol. Mae Eleanor yn credu bod delwed gynaliadwy'n cael ei gyflawni trwy ddarganfod a derbyn eich gwir hunan, siopa gyda meddwl positif a threfnus a buddsoddi mewn dillad o ansawdd uchel sydd wedi eu cynhyrchu'n foesegol.
Mae Style-id yn edrych ymlaen at eich helpu i ddod o hyd i'ch hunaniaeth steil.