"Roedd fy mhrofiad gydag Eleanor yn wych. Treuliodd amser yn dod i ddeall pwy ydw i, yr
hyn sy'n bwysig i mi a pha fath o fywyd sydd gen i er mwyn gweld pa fath o steil fyddai'n
gweddu i mi a pha ddillad oedd eu hangen arna i. Roedd y dasg o glirio'r cwpwrdd dillad yn
wych oherwydd roedd rhywun o'r diwedd yn dweud wrtha i pa bethau oedd rhaid cael gwared arnyn
nhw. Cyn hynny, ro’n i'n amharod i daflu pethau rhag ofn y byddwn i eu heisiau wedyn.
Cawsom ddiwrnod hir yn siopa, ac fe es i gartref gydag eitemau hyfryd dros ben sy'n mynd
yn ddel gyda’i gilydd. Cefais gyfle go iawn i weld dawn Eleanor ar waith pan greodd sawl
cyfuniad gwahanol o'r pethau brynom ni, a thynnu eu llun i mi fel na fyddwn i'n anghofio.
Yn ogystal â chynghori ar steil, roedd hi hefyd yn deall bod hyn yn gallu bod yn daith
emosiynol, ac roedd hi'n amyneddgar ac yn gefnogol dros ben o’r dechrau i'r diwedd. Alla
i ddim canmol digon arni."
Paula - Southhamption
"Mae Eleanor wedi gweddnewid fy ffordd o edrych ar steil, fy nghwpwrdd dillad a fy
hyder o ran sut olwg sydd arna i a sut rwy'n gwisgo. Mae gweithio gyda hi yn llawer
iawn o hwyl. Mae hi'n berson greddfol a chreadigol ac mae hi wedi fy arbed rhag gwario
cannodd o bunnoedd ar ddillad 'bargen' a oedd yn anaddas i mi!! Mae hi hefyd wedi bod
yn wych gyda fy mhartner a'i ferch, ac mae'r ddau wedi elwa o'i chefnogaeth, ei hasesiad
lliwiau a'r dasg clirio cwpwrdd dillad. Mae pob un ohonom yn hapus iawn gyda chyfraniad
Eleanor i'n bywydau a byddwn yn ei hargymell i UNRHYW UN, yn ddyn, yn fenyw neu'n rhywun
ifanc, sydd eisiau help i ddod i hyd i'w steil a'u lliwiau personol, ac sydd angen help
i fod yn fwy hyderus am eu cyrff, eu steil a sut maen nhw'n cerdded yn 'benuchel'. Mi
allwch chi ddweud mod i wrth fy modd gyda sut mae hi wedi helpu pob un ohonon ni -
diolch El xx"
Su Turney - Caerdydd
"Eleanor, rwy eisiau dweud pa mor glyfar wyt ti. Dyma ambell sylw rwy wedi'i
gael dros y misoedd diwethaf ynghylch pa mor dda rwy'n edrych: fy esgidiau pigfain - pa mor cŵl ydyn nhw, rwy wrth fy modd gyda nhw! o ble gest ti dy got - dwi eisiau un fel 'na!
mae'r siaced yn anhygoel - o ble gest ti hi? rwy wrth fy modd efo'r tei 'na.
Llawer gormod i'w nodi, a dweud y gwir. Diolch yn fawr iawn, ac i goroni'r cyfan dywedodd rhywun wrtha i
'Rwy'n dwli ar sut wyt ti'n gwisgo'.... Eleanor ti'n werth y byd!"
Phil - Bryste
"Ym mis Mai, treuliais y diwrnod gydag Eleanor yn ailwampio fy nghwpwrdd dillad
cyn fy mod i'n mynd dramor. Mae Eleanor yn broffesiynol, yn hynod ddymunol ac yn
gwybod yn iawn sut mae gwisgo menywod er mwyn gwneud y gorau o'u hasedau, gan weithio
gyda siâp y corff. Fe greodd sawl gwisg gyflawn i mi a fyddwn i erioed wedi meddwl am
roi'r dillad hynny gyda’i gilydd. Maen nhw'n gweithio i'r dim. Mi gawson ni lawer o
hwyl hefyd! Felly, os ydych chi'n ysu am ailwampio'ch cwpwrdd dillad neu'n awyddus i
ddod o hyd i wisg ar gyfer achlysur arbennig, ffoniwch Eleanor."
Jacqueline Epifanie - Caerfaddon
"Roedd Eleanor yn wych! Ges i ddiwrnod da iawn, ac rwy wrth fy modd gyda fy ngwisgoedd newydd. Nawr, fe alla i fynd i siopa eto gyda hyder."
Lisa Fordred - Bryste
"Roeddwn i'n bendant nad oedwn i am wisgo ffrog fawr wen wrth briodi.
Fy nod, oedd dod o hyd i ffrog unigryw gallwn ei gwisgo eto. Ond doedd
gen i ddim syniad ble i chwilio! Roedd gwasanaeth Eleanor felly yn amhrisiadwy.
Fe ges i gyngor ar y lliwiau a’r steil fyddai’n gweddu orau, syniadau amrywiol
am bob math o bosibiliadau, ynghyd a diwrnod bythgofiadwy mewn siopau anhygoel
yn Llundain. Heb gyngor Eleanor fyddwn i ddim wedi gwybod ble i ddod o hyd i’n
ffrog, heb sôn am yr hyder i’w thrio a’i phrynu!"
Mari Sion - Aberystwyth
"Ar ôl magu 3 o blant a sefydlu busnes gyda fy ngŵr, roedd beth oedd yn ffasiynol
a pwy oeddwn i wedi diflannu rhywle dros y blynyddoedd. Gyda help Eleanor darganfyddais
steil a hyder newydd ac fe alluogodd hyn i mi ddeall pa liwiau, siâp dillad ac ati a
oedd yn gweddu i mi. Gallaf ddweud a'm llaw ar fy nghalon fod pawb yn dweud pa mor dda
a hapus rwy'n edrych heddiw a does dim cywilydd gyda'r plant i fod allan yn gyhoeddus
gyda mi rhagor chwaith - dwi’n credu eu bod yn eithaf balch o'u mam hyderus, ifanc,
swanc sy'n medru siopa dillad neis i'w hun.
Diolch Eleanor!"
Myra James - Sir Benfro
Mari Sion, Aberystwyth
Eleanor a Myra James, Sir Benfro