DARGANFOD LLIW
Mae ganddoch chi arlliw unigryw. Mae'n bwysig gwerthfawrogi, ystyried a gwneud y gorau o'ch ymddangosiad trwy wisgo'r lliwiau cywir. Gall pob un ohonon ni wisgo chwarter o liwiau'r byd; mae hyn yn gyfle i chi ddarganfod eich palet lliw unigryw eich hun.
Bydd dadansoddiad lliw yn nodi a oes ganddoch chi isliw cynnes neu oer, os ydych yn gweddu i liwiau golau neu ddwfn/tywyll, ac os yw'ch croen yn gweddu i arlliwiau llachar neu dawelach.
Gall gwisgo'r lliwiau cywir liniaru ymddangosiad rhychau, lleihau' effaith o gysgod dan y llygaid, a goleuo'r wyneb i roi ymddangosiad iau ac iachach.
Mae gwisgo'r lliwiau cywir yn cyfoethogi'ch hunan mewnol, gan eich bod wedi cymryd y cam hwn i ddeall rhan hanfodol o'ch hunaniaeth.